#

Y Pwyllgor Deisebau | 5 Mehefin 2018
 Petitions Committee | 5 June 2018
 ,Deiseb: P-05-815 Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys sy'n Ehangu'n Gyflym yng Nghymru 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-815

Teitl y ddeiseb: Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys Sy'n Ehangu'n Gyflym Yng Nghymru

Testun y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau strategol hirdymor i sicrhau bod y diwydiant cynnyrch dofednod yn gynaliadwy yn amgylcheddol drwy gyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn effeithiol.

Mae gyrwyr amaethyddol pwerus sy'n cael eu hatgyfnerthu gan BREXIT yn cynyddu cynhyrchiad dwys o ran wyau a dofednod. Mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r canlyniadau amgylcheddol difrifol o ran bioamrywiaeth, pridd ac ansawdd dŵr ac afiechydon adar a dynol. Mae'r cyhoedd yn codi llais ynghylch lles dofednod ond yn anwybodus, ar y cyfan, am effaith amgylcheddol unedau ffermio dofednod dwys. Mae unedau wyau "maes" gyda chrynhoad o hyd at 2,500 o adar i bob hectar yn risg arbennig (adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 218: (adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 218: Astudiaeth Peilot Dofednod Powys a rhybuddion nitrogen INI 6/17).

Mae cymoedd serth, glawiad uchel sy'n achosi difrod maethol trwm a phoblogaethau o rywogaethau naturiol prin yn gwneud llawer o Gymru wledig yn hollol anaddas ar gyfer y ffrwydrad presennol o unedau ffermio dofednod dwys. Ar ôl gostyngiad yn 1990, mae allyriadau amonia wedi bod yn cynyddu ers 2010 (adroddiad Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol 2017 ar gyfer DEFRA). Mae llwythau critigol o ddyddodiadau amonia a nitrogen (trothwyon amcangyfrifedig o ran niwed annerbyniol i amrywiaeth planhigion) yn llawer uwch mewn rhai safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd a'r DU, Gwarchodfeydd Natur Lleol a Choetiroedd Hynafol. Mae ffosffadau gormodol yn bygwth ein cyrsiau dŵr (Sefydliad Gwy ac Wysg 2017).

Wrth fethu â gweithredu ar y dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Powys yn esgeuluso'r ddyletswydd i "gynnal a gwella bioamrywiaeth" (Deddf yr Amgylchedd Adran 6).

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i reoli'r diwydiant:

1.   Darparu adnoddau priodol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud ymchwil brys, rheoleiddio a monitro unedau dwys a rhoi gwell cymorth cynllunio i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl).

2.   Cyhoeddi polisi cynllunio ac arweiniad i ACLl i wella penderfyniadau, sicrhau bod effeithiau cronnus yn cael eu hystyried a monitro a gorfodi amodau cynllunio.

3.   Gwneud i'r diwydiant gyfrannu tuag at gostau rheoleiddio a monitro a'i ddwyn i gyfrif am dorri cyfrifoldeb amgylcheddol.

4.   Cyhoeddi adroddiadau cyhoeddus tryloyw ar gynnydd.

 

Y cefndir

Dwy brif elfen sydd o ran rheoleiddio unedau dofednod - y system gynllunio (sef cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol) a'r system drwyddedu amgylcheddol (sef cyfrifoldeb Adnoddau Naturiol Cymru). Yn fras, mae angen caniatâd cynllunio ar unedau newydd ac Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn ogystal lle maent yn uwch na throthwyon penodol. Mae hefyd angen trwydded amgylcheddol uwchben trothwy penodol.

Cynllunio

Rhaid i geisiadau am unedau dofednod gael eu penderfynu yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall.

Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ystyried barn yr ymgyngoreion statudol (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru) a chyrff eraill (e.e. Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ymddiriedolaethau bywyd gwyllt lleol) ac unrhyw un arall, gan gynnwys y cyhoedd, sydd â barn. Mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol fodloni eu hunain bod digon o wybodaeth a chyngor arbenigol ar gael iddynt bennu ceisiadau yn gywir.

O ran Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, mae Rhan 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 yn manylu ynghylch cynigion datblygu a throthwyon cysylltiedig, gan ddiffinio ble mae cynnig i ddatblygu yn golygu datblygiad lle mae angen Asesiad. Mae'r rhain yn Atodlen 1 ac Atodlen 2 i'r Rheoliadau. Mae Atodlen 1 yn rhestru'r datblygiadau hynny lle mae Asesiad yn orfodol ac mae Atodlen 2 yn nodi lle y mae'n rhaid i'r datblygiad gael ei sgrinio i benderfynu a yw'n ddatblygiad lle mae angen Asesiad.

Mae Atodlen 1 yn nodi mai'r trothwy ar gyfer magu dofednod yn ddwys yw "85,000 o leoedd ar gyfer brwyliaid neu 60,000 ar gyfer ieir".

Er nad yw Asesiad yn orfodol ar gyfer datblygiad arfaethedig, mewn llawer o'r adeiladau arfaethedig mae arwynebedd y llawr yn fwy na'r trothwy perthnasol o 500 metr sgwâr ac felly, at ddibenion y Rheoliadau, mae'n ddatblygiad Atodlen 2, sy'n gofyn bod yr awdurdod cynllunio lleol yn cyhoeddi barn sgrinio. O'r herwydd, mae'r awdurdod cynllunio lleol yn ystyried y datblygiad yn erbyn y meini prawf a nodir yn y Rheoliadau ac a yw'n ystyried bod y datblygiad yn ddatblygiad lle mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ai peidio.

Mae mwy gan y Gwasanaeth Ymchwil ar Asesu Effaith Amgylcheddol yn ei Bapur Ymchwil ar Asesu Effaith Amgylcheddol (PDF 1.90MB).

Trwyddedu Amgylcheddol

Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r crynodeb canlynol i'r Gwasanaeth Ymchwil:

Larger intensive units with 40,000 or more poultry places are closely regulated by Natural Resources Wales (NRW) under the environmental permitting regime in accordance with the requirements of the Industrial Emissions Directive. 

At the heart of the regime are the requirements to apply the Best Available Techniques (BAT) for pollution control and the requirement to prevent any significant pollution. 

BAT includes both the technology and the operational techniques necessary to prevent or reduce polluting emissions to air, land and water and impact on the environment as a whole – including noise and odour. 

These and other requirements are applied by NRW through environmental permits, which specify a range of conditions in relation to how the units can be operated, such that the environment is protected. 

As part of the permitting process, NRW carefully examine potential emissions against established environmental quality.  NRW will only issue a permit allowing the unit to operate if they are satisfied that communities and the environment, including any sensitive habitats, will be protected and that no significant pollution will be caused. 

Last year NRW issued updated guidance for the assessment of potentially polluting emission from intensive poultry units, for use by local Planning Authorities and in their own environmental permitting process. 

In their updated guidance (Guidance Note 20: Assessing the impact of ammonia and nitrogen on designated sites from new and expanding intensive livestock unit) they set out tighter thresholds in relation to the requirement for operators to undertake detailed assessment of emissions of ammonia and nitrogen, which has enhanced the protection of sensitive habitats through the planning and permitting regimes.

This guidance was initially published October 2017 and [will be] subsequently reviewed [in] December 2018.

Mathau eraill o reoleiddio

Mae unedau dofednod hefyd yn ddarostyngedig i reoleiddio sy'n ymwneud â risg clefydau i iechyd anifeiliaid a phobl, ac o ran lles anifeiliaid.

Camau a gymerwyd gan Afonydd Cymru

Afonydd Cymru yw'r corff ymbarél ar gyfer y chwe ymddiriedolaeth afonydd yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2018 cyflwynodd gŵyn i'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch llygredd amaethyddol (PDF 361KB) mewn afonydd yng Nghymru a oedd wedi arwain at achos honedig o dorri Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE. Mae'r gŵyn yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi methu â rheoleiddio gweithgaredd amaethyddol yn ddigonol, gan gynnwys y sector dofednod. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wrthi'n ystyried y gŵyn.

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi anfon llythyr manwl at y Cadeirydd yn rhoi ei sylwadau ar y ddeiseb hon ac yn ymateb i'r pedwar cais a wneir ynddi.

Yn ddiweddar, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar fersiwn ddiwygiedig o'i pholisi cynllunio cenedlaethol, Polisi Cynllunio Cymru (12 Chwefror - 18 Mai 2018). Yn y drafft o'r ymgynghoriad mae adran ar leoliad datblygiad sy'n halogi, gweler paragraffau 5.136 i 5.138.

 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gofynnodd Simon Thomas AC gwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn yn y Cynulliad ar 21 Mawrth 2018:

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gohebu â chi ar faterion cynllunio mewn perthynas â datblygiad sylweddol iawn yn rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin ar hyn o bryd, sef ehangu unedau dofednod.  Rydym wedi gweld llawer o geisiadau ar gyfer dofednod maes. Mae'n ymateb i'r farchnad; mae'n ymateb, yn rhannol, i Brexit, yn fy marn i. Mae'n ymwneud â'r diwydiant ei hun yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Felly, nid oes unrhyw broblem ynglŷn â hynny, ond ymddengys bod y rheolau cynllunio ynglŷn â'r unedau hyn wedi'u gwreiddio yn y gorffennol, gan nad ydym wedi ymdrin â nifer mor fawr o'r blaen.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad ydynt yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch ceisiadau cynllunio mewn perthynas â'r unedau hyn os nad ydynt yn gysylltiedig â ffermio dwys, ond mewn gwirionedd, gall dofednod maes achosi cymaint o lygredd, o bosibl, ag unedau dofednod dwys; mae'n ymwneud â natur y ffordd y cedwir yr ieir, yn enwedig pan fyddant dan do. Felly, a ydych yn hollol siŵr fod y gyfundrefn gynllunio bresennol ar gyfer unedau dofednod maes ac unedau dofednod eraill yn addas at y diben?

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud ein bod yn gweld cynnydd yn nifer yr unedau dofednod sy'n mynd drwy'r system gynllunio ac yn dwyn ffrwyth.  A chredaf fod hyn yn ymwneud â ffermwyr yn arallgyfeirio, ac yn sicr, credaf fod Brexit yn effeithio ar hyn.

Dyma faes rwyf wedi gofyn am gyngor yn ei gylch, oherwydd cafwyd enghraifft yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mewn gwirionedd—nid yn fy etholaeth i—lle y cefais gryn dipyn o ohebiaeth a nodai y gall fod yn llawer mwy dwys na rhai mathau o amaethyddiaeth.  Felly, yr ateb byr yw 'Nac ydw', ond rwy'n edrych am gyngor ynglŷn â hynny i sicrhau eu bod yn addas at y diben, a buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod wedi i mi gael y cyngor hwnnw.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.